Tarodd Graham Wagg 116 heb fod allan ar ail ddiwrnod gornest Morgannwg yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford, gan ailadrodd ei gyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau erioed.

Cyrhaeddodd Wagg ei ganred oddi ar 99 o belenni a hyd yma, mae e wedi taro 14 pedwar a thri chwech.

Hwn oedd trydydd canred Wagg, a’i ail i Forgannwg – daeth y cyntaf yn erbyn Swydd Gaint y tymor diwethaf (116*).

Cipiodd Wagg bedair wiced yn ystod batiad cyntaf Swydd Surrey a phan ddaeth tro Wagg i fatio, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar 106-6.

Roedd ei bartneriaeth o 152 gyda’r wicedwr Mark Wallace (92) yn allweddol i adferiad Morgannwg yn y batiad cyntaf, wrth iddyn nhw osgoi gorfod canlyn ymlaen a dod o fewn 83 rhediad o gyfanswm batiad cyntaf Swydd Surrey o 406.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd Morgannwg yn 323-8 – Wagg heb fod allan ar 116 ac Andrew Salter yn bedwar heb fod allan.