Mae hyfforddwr tîm criced Awstralia, Darren Lehmann wedi cyfaddef ei fod yn wynebu “pen tost enfawr” wrth ddewis ei fowlwyr cyflym ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yng Nghaerdydd fis nesaf.

Mae disgwyl i Awstralia ddewis tri bowliwr cyflym ar gyfer yr ornest yn erbyn Lloegr, sy’n dechrau ar Orffennaf 8, ond mae pump o fowlwyr wedi gwneud digon i gael eu hystyried.

Roedd Josh Hazlewood (12 wiced), Mitchell Starc (10 wiced) a Mitchell Johnson (wyth wiced) wedi serennu’n ddiweddar yn y gyfres yn erbyn India’r Gorllewin.

Ond mae Ryan Harris a Peter Siddle yn dynn ar eu sodlau.

Dywedodd Lehmann ar wefan Criced Awstralia: “Mae’r bois hynny wedi rhoi pen tost enfawr i ni – ond un da hefyd – ac mae gyda ni benderfyniad anodd i’w wneud.

“Bydd dau o’r pump o fois yn ofnadwy o anlwcus i golli allan, ond dyna sy’n digwydd pan ydych chi’n chwarae criced da.

“Rhaid i chi wneud y penderfyniadau anodd hynny.”

Bydd gemau cyfeillgar yn erbyn Swydd Gaint a Swydd Essex cyn dechrau Cyfres y Lludw yn gyfle arall i weld y pum bowliwr ar gaeau Lloegr.

“Bydd y ddwy gêm yma ar y daith cyn dechrau’r gyfres yn chwarae rhan fawr yn ein ffordd o feddwl.

“Mae angen i ni weld sut mae’r bowlwyr yn gwneud ac yn bowlio yn yr amodau gwahanol, ar gaeau gwahanol a gyda phêl wahanol.”

Mae Awstralia wedi ennill dwy gêm oddi cartref yn y Lludw allan o 15 yn ystod y degawd diwethaf, ac mae hyfforddwr Awstralia’n awyddus i wella’r record honno.

“Mae’n ddwy flynedd ers ein taith Lludw ddiwethaf ac fe fu newid mawr yn fy ffordd o feddwl i’n bersonol a’r tîm hefyd o’i gymharu â’r adeg aethon ni yno yn 2013.

“Mae’r bois mewn lle gwell nag oedden nhw ddwy flynedd yn ôl.

“Ry’n ni’n agos iawn fel tîm ac ry’n ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud ar y cae ac oddi arno er mwyn cyrraedd ein nod.”