Chris Coleman, Osian Roberts a Hal Robson-Kanu yn dathlu'r fuddugoliaeth nos Wener
Mae Chris Coleman wedi mynnu bod y foment fwyaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 Cymru eto i ddod, ar ôl buddugoliaeth hanesyddol y tîm dros Wlad Belg nos Wener.

Roedd gôl Gareth Bale ar ôl 25 munud yn ddigon i gipio’r tri phwynt ac mae’r fuddugoliaeth o 1-0 wedi symud Cymru i frig eu grŵp rhagbrofol.

Gydag ond pedair gêm yn weddill, mae breuddwyd cefnogwyr y crysau cochion o gyrraedd twrnament rhyngwladol gam yn nes ar ddod yn realiti.

Ac fe awgrymodd rheolwr y tîm ei fod bellach yn dawel hyderus y bydd y tîm yn gwireddu’r gobeithion hynny, a chyrraedd Ffrainc y flwyddyn nesaf.

“Rydan ni dros yr hanner ffordd nawr, mae timau’n dechrau rhedeg allan o gemau,” meddai Chris Coleman.

“Felly hon [y fuddugoliaeth dros Wlad Belg] yw’r foment dw i wedi ei fwynhau fwyaf, ond dw i dal yn meddwl bod un fwy i ddod yn yr ymgyrch yma.”

“Sŵn anhygoel”

Cafodd yr awyrgylch danllyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod buddugoliaeth Cymru ei ganmol i’r cymylau gan gefnogwyr oedd yno yn ogystal â’r rhai oedd yn gwylio ar y teledu.

Ac yn ôl Chris Coleman, roedd hynny wedi sbarduno ei chwaraewyr i ymroi pob owns o egni er mwyn ennill eu lle ar frig y grŵp.

“Un peth nes i ddweud wrth y chwaraewyr cyn y gêm oedd iddyn nhw adael popeth mas fynna ar y cae, peidio dod ag unrhyw beth nôl i’r ystafell newid,” meddai’r rheolwr.

“Roedd y cefnogwyr [yn y gêm], dw i erioed wedi gweld rhywbeth fel ‘na. Canu’r anthem genedlaethol, roedd y sŵn yn anhygoel … allwn ni ddim gofyn mwy gan y cefnogwyr, fe roddon nhw bopeth a mwy.

“Mae’n rhaid i mi ddweud mai honno oedd y fuddugoliaeth nes i fwynhau fwyaf [yn fy ngyrfa], roedd e’n fuddugoliaeth anferth ac nid jyst achos bod Gwlad Belg yn rhif dau yn y byd, roedden nhw yn hafal ar y brig gyda ni [yn y grŵp Ewro 2016] a nawr ni sydd ar y brig.”

Pedair ar ôl

Pedair gêm sydd yn weddill gan Gymru yn yr ymgyrch – i ffwrdd yn Cyprus a gartref yn erbyn Israel ym mis Medi, ac yna i ffwrdd yn Bosnia a gartref yn erbyn Andorra ym mis Hydref.

Fe fydd Cymru yn saff o’u lle yn Ewro 2016 os ydyn nhw’n ennill y ddwy nesaf, ond fe fyddai hyd yn oed un fuddugoliaeth o’r tair nesaf yn debygol o fod yn ddigon o gofio eu bod yn chwarae tîm gwanaf y grŵp yn y gêm olaf.

Serch hynny, mae capten Cymru Ashley Williams wedi mynnu bod angen i’r tîm geisio ennill eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf cyn gynted ag y gallan nhw, er mwyn iddyn nhw allu ymlacio yn y gemau olaf.

“Mae dal mwy o bwyntiau i chwarae am, ac mae’n bwysig i ni drio gwneud hyn mor fuan â phosib a’i gwneud hi’n saff, yn hytrach na’i gadael hi i’r gemau olaf, a rhedeg y risg yna,” meddai’r amddiffynnwr.