Nasir al-Wahishi
Mae mudiad Al Qaida wedi cadarnhau bod un o’u harweinwyr Nasir al-Wahishi wedi cael ei ladd mewn ymosodiad o’r awyr gan yr Unol Daleithiau.

Mae’r farwolaeth yn cael ei hystyried fel yr ergyd fwyaf i’r mudiad ers marw Osama bin Laden.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiad o’r awyr yn ninas Mukalla yn Yemen yr wythnos diwethaf ac mae swyddogion wedi bod yn ceisio cael cadarnhad o farwolaeth Nasir al-Wahishi ers hynny.

Gwnaed y cyhoeddiad gan lefarydd  al Qaida mewn fideo dros y we. Ddywedodd hefyd mai Qasim al-Raymi fydd ei olynydd.

“Yn enw Duw, mae gwaed yr arloeswyr hyn wedi ein gwneud yn fwy penderfynol i aberthu,” meddai.

Aqap

Roedd Nasir al-Wahishi yn cael ei ystyried fel dirprwy arweinydd ac ef hefyd oedd cyn-ysgrifennydd personol Osama bin Laden.

Yn 2006, roedd ymysg 23 o wrthryfelwyr al Qaida wnaeth ddianc o garchar ym mhrif ddinas Yemen, Sanaa.

Yn 2009, fe gyhoeddodd Nasir al-Wahishi fod grŵp newydd o’r enw Aqap wedi’i greu, oedd yn cynnwys milwyr o Yemen a Saudi Arabia.