Mae’r bilsen bore wedyn wedi ei drwyddedu yn swyddogol i’w defnyddio gan ferched o dan 16 oed am y tro cyntaf.

Gall cyffur ellaOne fod yn effeithiol hyd at bum diwrnod ar ôl cael rhyw heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu, a bydd ar gael ledled y wlad i ferched o dan oed cydsynio.

Hyd yn hyn, mae rhai fferyllfeydd wedi cael caniatâd i roi pilsen sy’n gweithio hyd at dri diwrnod ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch i ferched yn eu harddegau, ond bydd y cyffur newydd ar gael yn ehangach.

Mae’r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol sy’n dweud y bydd yn galluogi mwy o fynediad i fath o atal cenhedlu brys sy’n effeithiol am gyfnod hwy na’r dewis sydd ar gael ar hyn o bryd.

Datgelodd ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror fod y gyfradd feichiogi ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr ar ei isaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1969.