Dr Gwenllian Lansdown Davies
Fe fydd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin yn dweud heddiw bod plentyn bach sy’n byw mewn tlodi yn clywed 62,000 o eiriau mewn wythnos, o’i gymharu â phlentyn o deulu cymharol gyfoethog sy’n clywed 215,000 o eiriau.
Mae hi felly yn ddyletswydd ar y mudiad i barhau i “weithio’n ddiwyd” er mwyn rhoi cyfleoedd i blant bach allu cael mynediad at iaith, yn ôl Dr Gwenllian Lansdown Davies.
Bydd y prif weithredwr yn annerch cynhadledd Dathlu’r Gymraeg yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd.
Bwriad y diwrnod yw paratoi Maniffesto a Gweledigaeth i’r Gymraeg 2016+ a fydd yn cynnwys syniadau i hybu’r Gymraeg a’i diogelu o fewn cymunedau.
Gallu ieithyddol
“Yn ôl un o brif raglenni trechu tlodi Llywodraeth Cymru, sef Dechrau’n Deg, mae plentyn bach sy’n byw mewn tlodi yn clywed 62,000 o eiriau mewn wythnos,” meddai, “tra bod plentyn sy’n byw mewn cyfoeth cymharol yn clywed 215,000 o eiriau mewn wythnos.
“Pam fod hyn o bwys? Oherwydd bod perthynas agos rhwng gallu ieithyddol, lleferydd geirfa ac iaith gyda chyrhaeddiant bywyd a datblygiad plentyn.”
Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i ni ym Mudiad Meithrin a thu hwnt barhau i weithio’n ddiwyd er mwyn rhoi cyfleoedd i blant bach allu cael mynediad at iaith, a thrwy hynny at gyfleoedd bywyd er mwyn sicrhau cau’r bwlch rhwng y plentyn bach hwnnw sy’n clywed dim ond 60,000 o eiriau mewn wythnos a’r llall sy’n clywed dros 200,000.”
Ymysg siaradwyr gwadd eraill yn y gynhadledd mae Owain Gruffudd o Fentrau Iaith Cymru, Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Elaine Edwards o UCAC a Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.