Y difrod wedi'r daeargryn
Mae Nepal wedi ailagor y rhan fwyaf o’r safleoedd treftadaeth a gafodd eu difrodi yn dilyn dau ddaeargryn nerthol a ddinistriodd rannau o’r wlad yn ddiweddar.

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio bydd y cyhoeddiad yn helpu i ddenu twristiaid i’r wlad unwaith eto.

Dywedodd Kripasur Sherpa, Gweinidog Twristiaeth y wlad, fod chwech o’r saith safle treftadaeth a gafodd eu cau ar ôl daeargrynfeydd yn ailagor heddiw.

Cafodd mwy na 8,700 o bobl eu lladd yn y daeargrynfeydd ar Ebrill 25 a 12 Mai. Mae cannoedd o filoedd o adeiladau wedi cael eu difrodi, gan gynnwys hen demlau, palasau a strwythurau hanesyddol eraill sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

Mae tua 800,000 o dwristiaid tramor yn ymweld â Nepal bob blwyddyn, ac mae’r llywodraeth yn poeni y bydd y daeargrynfeydd yn atal llawer rhag ymweld â’r wlad.