Mae dyn a oedd yn cael ei amau o ymosodiad arfog ar bencadlys heddlu Dallas, Texas, wedi cael ei saethu’n farw.
Roedd dyn arfog wedi bod yn tanio ar blismyn y tu allan i’r pencadlys yn ystod oriau mân y bore.
Roedd wedi ceisio dianc mewn fan arfog ac yn ddiweddarach fe fu brwydr rhyngddo a’r heddlu mewn maes parcio am rai oriau.
Dywedodd pennaeth heddlu Dallas, David Brown, i un o saethwyr yr heddlu daro’r dyn yn ei fan ychydig wedi 5 y bore, ond na wnaeth yr heddlu fentro i’r fan gan eu bod yn amau y gallai fod yn llawn o ffrwydron.
Ni chafodd neb arall eu hanafu yn y saethu.
Nid oes cadarnhad beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.