Prifddinas Irac, Baghdad
Mae 13 o bobl wedi cael eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau gan hunan-fomwyr Islamic State yn Irac.

Mewn cyfnod o 15 munud fe wnaeth pedwar hunan-fomiwr yrru ceir yn llawn ffrwydron i ddau safle diogelwch a phencadlys milwrol yn ardal al-Hajaj i’r gogledd o’r brifddinas Baghdad.

Mae’r ardal heb fod ymhell o dref Beiji a gafodd ei hadennill gan luoedd y llywodraeth rai dyddiau’n ôl ar ôl brwydro ffyrnig.

Yn y cyfamser, dywed yr heddlu iddyn nhw amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau hunan-fomwyr eraill gerllaw Garma, i’r dwyrain o ddinas Fallajah sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Cafodd taflegrau ddinistrio tanciau a dderbyniwyd yn ddiweddar gan America eu defnyddio i ffrwydro ceir yr hunan-fomwyr cyn iddyn nhw allu lladd neb arall.