Llywydd Fifa, Sepp Blatter
Dywed Fifa y bydd penderfyniad ynglŷn â dyddiad ar gyfer etholiad i ddewis olynydd i’r llywydd Sepp Blatter yn cael ei wneud fis nesaf.

Rhagfyr 16 yw’r dyddiad mwyaf tebygol, meddai’r corff pêl-droed.

Yn ôl Fifa fe fydd cyfarfod arbennig o’r pwyllgor gweithredol yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf pan fydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer cynnal etholiadau i ddewis llywydd newydd.

Fe gyhoeddodd Sepp Blatter ddydd Mawrth diwethaf ei fod yn ymddiswyddo – bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ail-ethol yn llywydd am bumed tymor. Mae’n dilyn cyhuddiadau o lygredd a thwyll yn erbyn rhai o uwch swyddogion Fifa sydd wedi achosi’r argyfwng gwaethaf yn hanes y corff.

Dywedodd Blatter, 79, y byddai’n aros yn ei swydd nes bod olynydd newydd yn cael ei ddewis.