Gareth Bale yn ymarfer
Mae’r croeso Cymreig y mae Gareth Bale yn ei gael bob tro mae’n ymuno â charfan Cymru yn helpu i gael y gorau allan ohono ar y cae, yn ôl un o’i gyd-chwaraewyr.
Ar ôl tymor cyntaf gwych gyda Real Madrid llynedd, pan enillodd y tîm Gwpan Ewrop am y degfed tro, dyw bywyd ddim wedi bod mor felys i Bale yn Sbaen y tymor hwn a llawer wedi beirniadu ei berfformiadau.
Ond mae wedi parhau i serennu dros Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw, gan sgorio goliau allweddol yn Israel ac Andorra wrth i Gymru wneud dechrau gwych i’w hymgyrch ragbrofol Ewro 2016.
Mae’r ymosodwr bellach ar drothwy ennill ei 50fed cap dros ei wlad pan fydd Cymru yn herio Gwlad Belg nos Wener, ac yntau dal ddim ond yn 25 oed.
Ac yn ôl un o’i gyd-chwaraewyr sydd eisoes wedi cyrraedd y trothwy hwnnw, mae’r ffaith fod Bale yn mwynhau ymuno â’r garfan genedlaethol yn golygu y bydd digonedd i ddod eto.
“Dy’n ni ddim yn siarad Sbaeneg, ry’n ni’n siarad Saesneg a Chymraeg, felly mae e wedi arfer â’r iaith yma!” chwarddodd Joe Ledley.
“Mae e’n hoffi dod mewn, mae’n ymlacio, mae e jyst yn un o’r bois a dyna sut ni’n trin e, does neb yn ei drin yn wahanol, ac mae’r un peth gyda Rambo [Aaron Ramsey].”
Cyrraedd y 100
Mae’r genhedlaeth bresennol o chwaraewyr Cymru wedi cael eu galw’n genhedlaeth aur mwy nag unwaith, gyda nifer ohonyn nhw wedi ennill capiau yn ifanc a nawr yn agosáu at yr hanner cant.
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes wedi herio rhai o’r chwaraewyr i geisio cyrraedd 100 o gapiau, gan dorri’r record bresennol o 92 sydd gan Neville Southall.
Ac mae Joe Ledley, sydd eisoes wedi chwarae 56 o weithiau dros Gymru, yn ffyddiog y bydd Bale yn cyrraedd y nod hwnnw – er nad yw mor hyderus ynglŷn â’i obeithion ef ei hun.
“Dw i ddim yn gweld fi’n cyrraedd 100, ddim gyda fy nghluniau i!” meddai chwaraewr canol cae Crystal Palace.
“Ie, dyna’r bar sydd angen ei osod, mae gennych chi Wayne [Hennessey] hefyd, mae Chris Gunter dros y 50 ar oed mor ifanc [25], ac Ash [Ashley Williams] hefyd.
“Ond ni gyd eisiau cwrdd lan a chwarae, cynrychioli’ch gwlad yw’r fraint fwyaf yn y byd. Gobeithio gallwn ni gario ‘mlaen a cheisio ennill cymaint o gapiau â phosib.”
Datblygiad Bale
Fel un oedd yn nhîm Cymru’r diwrnod chwaraeodd Gareth Bale dros ei wlad am y tro cyntaf, mae Joe Ledley wedi gwylio datblygiad gyrfa cyn-chwaraewr Spurs a Southampton yn agosach na’r rhan fwyaf.
Dim ond 16 oed oedd Bale pan enillodd y cap cyntaf hwnnw, buddugoliaeth o 2-1 dros Trinidad a Tobago ble ddaeth ymlaen fel eilydd a chreu’r gôl fuddugol i Robert Earnshaw.
Ac yn ôl Ledley, roedd y dalent yna’n amlwg i bawb o’r cychwyn.
“Mae lot o’r bois wedi dod drwyddo’r un oed a fi, ac wedi gwella yn y garfan,” meddai Ledley.
“Roeddech chi’n gallu gweld bod rhywbeth arbennig amdano fe [Bale], roedd e’n wych ar y bêl, yn gyflym, cymryd ciciau rhydd.
“Mae’n dwlu ar ei bêl-droed, mae’n dwlu bod ar y cae, a mynd yno a phrofi pawb yn anghywir, ac mae’n rhaid dweud ei fod e’n haeddu bod lle mae e nawr.”
Neb eisiau methu allan
Pan gafodd carfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg ei chyhoeddi, roedd Jonathan Williams a Ben Davies ymysg y rheiny na chafodd eu henwi oherwydd anafiadau.
Ond mae’r ddau bellach wedi teithio i Gaerdydd i fod o gwmpas y garfan ac mae hynny’n dangos, yn ôl Ledley, sut mae’r awyrgylch o gwmpas y tîm wedi trawsnewid yn llwyr dros y misoedd diwethaf.
“Mae’r agosatrwydd yno ac mae pawb eisiau cwrdd lan. O’r blaen roeddech chi’n gweld lot o bobl yn tynnu mas, nawr hyd yn oed os ‘dych chi ‘di anafu ‘dych chi eisiau bod yno, a gweld y bois a gweld y staff,” meddai Ledley.
Mae’r brwdfrydedd hwnnw, wrth gwrs, yn rhannol yn deillio o’r ffaith bod Cymru yn hafal ar frig eu grŵp rhagbrofol hanner ffordd drwy’r ymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2016.
Gwlad Belg, eu gwrthwynebwyr nesaf, sydd yn eistedd ar y brig ond mae carfan Cymru yn hyderus bellach fod cyrraedd twrnament rhyngwladol o fewn eu cyrraedd.
“Chi wastad yn breuddwydio am y peth, a ni ‘di cyrraedd safle lle allai hynny ddod yn wir, mae angen i ni jyst barhau i gredu,” ychwanegodd Joe Ledley.
“Gobeithio cawn ni’r perfformiad a’r canlyniad rydyn ni eisiau.”