Joe Ledley yn siarad heddiw
Gyda dim ond tri diwrnod i fynd nes i Gymru herio Gwlad Belg yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 fawr, mae’r cyffro eisoes yn adeiladu yn y garfan ac ymysg y cefnogwyr.

Bydd bechgyn Chris Coleman yn gobeithio am dri phwynt o flaen eu torf gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener fyddai’n eu codi nhw i frig eu grŵp.

A chyda Cymru a Gwlad Belg yn hafal ar y brig, fe fyddai buddugoliaeth i’r un o’r ddau yn golygu eu bod nhw mewn safle gwych i geisio cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Roedd golwg360 yno heddiw i glywed beth oedd gan Joe Ledley, Wayne Hennessey a James Chester i’w ddweud am y gêm, ac ymgyrch Ewro 2016 Cymru.

Joe Ledley

Paratoadau: “Mae’n edrych yn dda, mae’r garfan yn edrych yn gryf, yn amlwg ni’n methu un neu ddau, ond mae digon ohonom ni yma, rydyn ni wedi cael deg diwrnod hir ac mae’r ymarfer yn edrych yn dda.”

Y gwrthwynebwyr: “Ni ‘di chwarae nhw cwpl o weithiau yn ddiweddar, mae ganddyn nhw dîm gwych, carfan gref, lot o chwaraewyr unigol da. Ond fe wnaethon ni ddelio’n reit dda gyda nhw i ffwrdd o gartref.

“Mae angen i ni fod yn amyneddgar, aros yn y gêm mor hir â phosib a cheisio cael rhywbeth wrth wrthymosod.”

Eden Hazard: “Fe wnaethon ni ddelio’n reit dda gyda fe i ffwrdd o gartref, felly gobeithio gallwn ni wneud yr un peth [tro yma]. Ond nid jyst fe sydd ganddyn nhw, mae ganddyn nhw chwaraewyr eraill allai frifo ni a sgorio goliau.”

Gareth Bale: “Roedden ni’n 17 yn torri drwyddo, ni ‘di bod drwy hyn gyda’n gilydd, a chi’n gallu gweld hynny ar y cae ac oddi ar y cae. Mae pawb [yn y garfan] yn mwynhau cyfarfod. Chwarae teg i Gareth, mae e mor broffesiynol, ac mae’n haeddu ei 50fed cap.

“Mae e wedi tyfu’n wych, mae e’n ddyn bellach, ond mae e jyst yn cymryd pethau fel maen nhw’n dod. Dw i ddim yn meddwl all unrhyw un gystadlu gyda fe [o ran ei lefel].”

Chris Coleman: “Roedd yr amgylchiadau gymrodd e’r swydd yn ofnadwy … roedd e wastad yn mynd i gymryd sbel i gyrraedd nôl i ble roedden ni. Nawr mae’r perfformiadau a’r canlyniadau wedi dod, a dyna pam ni mor uchel yn netholiadau’r byd [22ain], yr uchaf rydyn ni wedi bod.

“Mae’n rhaid rhoi clod iddo fe [Coleman] am hynny, dw i ddim yn meddwl bydden ni lle ydyn ni nawr oni bai amdano fe.”

Bale v Hazard: “Mae’r ddau yn chwaraewyr gwych, ac wedi profi hynny bob blwyddyn maen nhw’n chwarae. Mae’n mynd i fod yn wych gwylio, a dyna pam mae’r cefnogwyr yn dod i wylio, chi eisiau gweld y goreuon. Mae Gareth yn allweddol i’r ffordd ni’n chwarae a gobeithio all e ddangos i’r byd beth mae’n gallu gwneud.”

Sefyllfa’r grŵp: “Mae digon o gemau i fynd, mae digon o bwyntiau dal ar gael. Mae’r pwyntiau ar y bwrdd gennym ni’n barod, a gobeithio gallwn ni gael y tri [nos Wener], ond fydd hi ddim mor hawdd â hynny.”

Wayne Hennessey


Wayne Hennessey
Y gwrthwynebwyr
: “Rydan ni i gyd yn gwybod beth sydd gan Wlad Belg i’w gynnig, maen nhw’n dîm gwych. Rydan ni jyst yn canolbwyntio ar ein gêm ni.”

Thibaut Courtois: “Mae e’n un ohonyn nhw [y golwyr gorau yn y byd]. Ond fi’n ffan fawr o Joe Hart, felly hoffwn i feddwl bod Joe jyst o’i flaen e. Ond mae’n golwr gwych, yn chwarae i dîm gwych [Chelsea], dal yn ifanc, ond mae ganddo lot o brofiad.”

Eden Hazard: “Mae e wedi cael tymor gwych i Chelsea. Ond eto pan mae’n dod at Wlad Belg mae’n rhaid i ni ei gadw fe’n dawel. Mae’n dalent ffantastig, sgiliau gwych, ond gobeithio gallwn ni ei stopio fe.”

Noson brysur yn y gôl?: “Gobeithio ddim! Gwlad Belg sy’n dod i ni, felly wnawn ni ddim newid unrhyw beth, fe wnawn ni fynd a’n gêm ni atyn nhw.”

Y tymor gyda Crystal Palace: “Wnaeth fy nhymor i ddim dechrau fel byswn i wedi hoffi, byswn i wedi bod yn hoffi chwarae, ond dw i wedi cadw fy hun yn iawn, chwarae cwpl o gemau at y diwedd, felly roeddwn i’n hapus gyda hynny. Dw i ddim eisiau bod yn eistedd ar y fainc.”

Amser cyrraedd twrnament: “Ia dw i’n meddwl hynny, croesi bysedd. Mae gennym ni allu gwych yn y stafell newid, mae’r hogiau’n gyffrous i gwrdd fyny, mae’r staff wedi bod yn wych, a dw i’n meddwl mai dyma’n amser ni.”

Y gefnogaeth: “Nawr mae gennym ni stadiwm lawn. Mi fydd angen y deuddegfed dyn yna arnom ni hefyd, yn enwedig ar gyfer y gemau mawr. Hyd yn oed gyda gemau oddi cartref, rydyn ni’n gweld lot o gefnogwyr yn teithio.”

Y grŵp: “Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw un fel ffefrynnau. Mae gennym ni her dda ynom ni ac fe allwn ni orffen yn gyntaf os ydan ni ar ein gorau.”

James Chester


James Chester
Nôl yn y garfan
: “Ers mis Ionawr mae wedi bod yn rhwystredig ar ôl yr anaf [datgymalu ei ysgwydd], methu’r gêm yn Israel, felly mae’n dda bod nôl ar gyfer gêm mor fawr a chael gweld y bechgyn eto.”

Disgyn gyda Hull: “Mae sut orffennodd y tymor yn sicr yn siomedig, ar ôl trechu Crystal Palace a Lerpwl roedden ni i gyd yn meddwl ein bod ni’n agos at aros fyny. Ond os dw i’n poeni am hynny wnaiff hynny ddim fy helpu, mae’n bwysig symud ymlaen mor fuan â phosib.”

Ei safle o fewn yn y garfan: “Dydi o ddim yn rhywbeth dw i wedi meddwl lot am ar hyn o bryd. Er bod ni wedi mynd lawr, dyw fy ngallu i fel pêl-droediwr heb newid. Dw i’n meddwl mod i dal ddigon da i chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac ar lefel rhyngwladol. Dw i’n reit hyderus na wnaiff o effeithio fy safle [o fewn safle Cymru].”

Sylw gan glybiau eraill: “Mae wastad yn dda i’r ego, ond dyw’r rheiny ddim yn senarios allai ddylanwadu arnyn nhw, felly heblaw bod rhywbeth yn newid dw i’n fwy na hapus i fod yn Hull.”

Y gwrthwynebwyr: “Ar draws y cae mae ganddyn nhw unigolion da, ac yn gorfforol maen nhw’n anodd delio efo hefyd. Ond allan yng Ngwlad Belg fe ddangoson ni ein bod ni’n gallu ymdopi.”

Ei ymgyrch gyntaf: “Allai o ddim bod wedi mynd yn llawer gwell, yn bersonol ac fel carfan. Mae gennym ni lot o chwaraewyr sy’n chwarae ar y lefel uchaf ac mae hynny wedi dangos drwy gydol yr ymgyrch.

Gareth Bale: “Mae e’n foi wirioneddol neis, mae ei draed ar y ddaear er gwaethaf yr holl lwyddiant mae e wedi cael. Beth sydd wedi synnu fi fwyaf ei fod e wastad ar y blaen pan ni’n cael cyfarfodydd yn rhoi cyngor a rhannu ei brofiadau o chwarae ar y lefel uchaf.

“Os chi’n ei wylio fe ar y cae ymarfer chi’n gallu gweld pa mor galed mae e’n ymarfer.”

Eden Hazard: “Mae’n siŵr mai Hazard roddodd y 90 munud anoddaf i mi ar y cae yn fy nhymor cyntaf i yn yr Uwch Gynghrair. Ond ers hynny dw i’n teimlo bob tro dw i wedi chwarae yn ei erbyn, fy mod i wedi delio ag o’n well na wnes i’r tro cyntaf.”