Gareth Bale (llun: Nick Potts/PA)
Mae Gareth Bale yn debyg o fod yn “falch o ddod nôl” i Gymru ac ymuno â’r garfan genedlaethol unwaith eto ar ôl tymor anodd ar lefel clwb, yn ôl yr hyfforddwr Osian Roberts.
Ar ôl cael ei feirniadu gan gefnogwyr a’r wasg ym Madrid am ei berfformiadau’r tymor yma, mae Bale nawr gyda thîm Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gêm ragbrofol fawr yn erbyn Gwlad Belg.
Roedd chwaraewr drytaf y byd mewn sefyllfa debyg ym mis Mawrth, o dan bwysau yn Sbaen, cyn mynd i ffwrdd gyda’r tîm cenedlaethol a sgorio dwy gôl yn eu gêm ddiwethaf yn Israel.
Ac ar drothwy ennill ei 50fed cap dros ei wlad yr wythnos hon, mae bod o gwmpas ei hen ffrindiau yn dod â’r gorau allan o Gareth Bale yn ôl ei hyfforddwr.
‘Falch o ddod nôl’
“Rydan ni’n lwcus y math o berson ydi Gareth, mae o’n berson proffesiynol a ‘di o ddim yn gadael i’r sefyllfa yna [ym Madrid] fod yn effeithio arno fo fel unigolyn pan mae o efo Cymru, mae o’n medru gwahaniaethu rhwng y ddau,” meddai Osian Roberts wrth golwg360.
“Ac i ryw raddau mae’n siŵr ei fod o’n wir fod o bob tro’n falch o ddod yn ôl at Gymru, achos bod y sgrwtini mewn clwb mor fawr a Madrid bob awr o’r dydd, nid jyst bob dydd.
“Pan mae o hefo’r hogiau yma, mae o’n nabod nhw’n dda, maen nhw’n ffrindiau agos, mae’n grŵp agos. Dw i’n meddwl bod o’n mwynhau bod oddi cwmpas nhw, felly mae o’n dda iddo fo yn ogystal â bod yn dda i ni.”
Paratoi am y gêm
Bydd Cymru yn herio Gwlad Belg nos Wener a Stadiwm Dinas Caerdydd yn orlawn i’w gwylio nhw am y tro cyntaf.
Mae’r ddau dîm yn hafal ar frig eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, hanner ffordd drwy’r ymgyrch, wrth iddyn nhw frwydro am le yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Ac mae Osian Roberts yn mynnu mai’r tîm cenedlaethol yw’r unig beth sydd yn bwysig i’r chwaraewyr yr wythnos hon, gan bwysleisio bod llwyddiannau neu drafferthion ar lefel clwb yn cael eu gosod i’r neilltu.
“Un peth ‘da ni ‘di gwneud o’r cychwyn ‘di sicrhau mai gwaith ni fel hyfforddwyr ydi gweithio efo’r chwaraewyr,” esboniodd Osian Roberts, sydd yn rhan o staff hyfforddi’r rheolwr Chris Coleman.
“Rydan ni’n sicrhau o’n cwmpas ni wedyn bod ’na ryw fath o gylch sydd yn gwneud yn saff bod ddim byd yn dod fewn sy’n mynd i dynnu llygad unrhyw un am eiliad, neu dynnu sylw, neu sy’n golygu bod ni’n methu canolbwyntio am ddiwrnod.
“Allwn ni ddim fforddio newid beth ‘da ni’n ei wneud, mae’n rhaid sticio i beth ‘da ni’n ei wneud, achos mae beth ‘da ni’n ei wneud yn gweithio.”
Defnyddio’r sylw
Gyda Gareth Bale bellach yn seren sydd yn adnabyddus yn fyd eang, mae Cymru yn awyddus i droi’r sylw hwnnw yn rhywbeth positif allai yrru’r tîm tuag at eu nod o gyrraedd yr Ewros.
“Oherwydd eu bod nhw wedi cael rhywfaint o lwyddiant, mae’r sylw a’r angen am fwy o amser yn cynyddu, ond mae angen i ni gadw pethau’n dynn a chario ‘mlaen i wneud pethau fel ‘da ni ‘di bod yn gwneud, a sicrhau bod ni ddim yn newid dim o’r patrymau yna,” meddai Osian Roberts.
“Rydan ni eisiau adeiladu ar hynna gan obeithio bod hynna’n mynd i gael ni i gyrraedd Ffrainc.”