Timau achub yn achub un o'r teithwyr ddydd Mawrth
Mae nifer y rhai sydd wedi marw mewn damwain long bleser yn Tsieina bellach wedi codi i bron i 400.

Mae’n un o’r trychinebau morwrol gwaethaf yn hanes y wlad ers degawadau.

Mae timau achub bellach wedi llwyddo i sefydlogi’r llong er mwyn chwilio am ragor o gyrff.

Credir bod yr Eastern Star wedi troi drosodd yn Afon Yangtze ddydd Llun oherwydd gwyntoedd cryfion ond mae’r capten a’r prif beiriannydd yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi gofyn a ddylai’r llong fod wedi parhau a’i thaith ar ol i’r storm ddechrau yn nhalaith Hubei, a hynny er gwaethaf rhybuddion am y tywydd yn gynharach yn y nos.

Cafwyd hyd i gannoedd yn rhagor o gyrff ar yr Eastern Star dros nos, gan ddod a nifer y meirw i 396, meddai swyddogion.

Roedd mwy na 450 o bobl ar fwrdd y llong, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ymwelwyr oedrannus oedd yn hwylio o Nanjing i ddinas Chongqing.

Mae 14 o bobl wedi cael eu hachub o’r llong.