Nigel Farage
Fe fydd Nigel Farage yn defnyddio cynhadledd gyntaf UKIP ers yr etholiad cyffredinol i alw ar y blaid i fod yn un o’r prif leisiau yn yr ymgyrch yn erbyn aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Nigel Farage yn dweud wrth aelodau UKIP yn Eastbourne nad oes amser i’w golli i ennyn cefnogaeth cyn y refferendwm arfaethedig ynglŷn ag aelodaeth Prydain o’r UE.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth gefnogwyr y blaid na ddylen nhw aros i David Cameron gyhoeddi manylion ynglŷn â diwygiadau i’r UE cyn dechrau eu hymgyrch.

Wrth siarad gyda’r BBC cyn y gynhadledd, dywedodd Nigel Farage ei fod “eisiau rheolaeth o fy ngwlad yn ôl.”

Dywedodd y bydd Ukip yn dechrau eu hymgyrch yn yr hydref gan gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ymgyrchu a dosbarthu pamffledi.

Daw’r gynhadledd wedi cyfnod cythryblus yn hanes y blaid yn sgil yr etholiad cyffredinol. Roedd Nigel Farage wedi ymddiswyddo fel arweinydd y blaid cyn cyhoeddi y byddai’n ail-afael yn yr awenau ddyddiau’n ddiweddarach.