Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic modur yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd beic modur Honda 350cc yn teithio ar hyd Heol Parc Ninian pan wyrodd oddi ar y ffordd a tharo yn erbyn wal tua 9.30yh nos Wener.

Roedd dau ddyn yn teithio ar y beic modur pan ddigwyddodd y ddamwain. Cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac roedd yr ail ddyn wedi ffoi o’r safle ar ôl y ddamwain.

Cafodd ei ddarganfod yn ddiweddarach ac mae’n helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Bu’r ffordd ynghau am bedair awr wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad ar y safle.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw dystion a welodd y ddamwain, neu’r beic modur yn cael ei yrru cyn y ddamwain, i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.