Mae hunan-fomiwr wedi lladd o leiaf 20 o bobl mewn marchnad yn Maiduguri, Nigeria.

Bu’r dref, yng ngogledd-ddwyrain y wlad, dan ymosodiad hefyd yn oriau mân fore heddiw gan y mudiad brawychol, Boko Haram.

Awr yn ddiweddarach, fe wnaeth hunan-fomiwr danio bom ym marchnad gwartheg Gamboru, yn ôl tystion.

Daeth yr ymosodiadau ar ôl i fwy na 30 o bobl farw mewn ymosodiadau dros y penwythnos.

Cyhoeddodd Arlywydd Muhammadu Buhari ddydd Gwener diwethaf ei fod yn symud pencadlys milwrol y rhyfel o Abuja, prifddinas yng nghanol Nigeria, i Maiduguri.

Maiduguri yw’r ddinas fwyaf yng ngogledd-ddwyrain Nigeria – ac yno hefyd cafodd Boko Haram ei ffurfio.