Mae cyn-brif weinidog Israel, Ehud Olmert, wedi’i ddedfrydu i dreulio wyth mis yng ngharchar, a hynny am dderbyn arian yn anghyfreithlon gan gefnogwr o’r Unol Daleithiau.
Daw’r dyfarniad yn Llys Ardal Jerwsalem i gau llen ar yrfa ddramatig y gwleidydd a oedd, tan yn ddiweddar iawn, yn arwain y wlad ac yn gobeithio dod i gytundeb heddwch hanesyddol gyda’r Palesteiniaid.
Fe gafwyd Ehud Olmert yn euog ym mis Mawrth eleni, ac fe ddaw’r ddedfryd heddiw yn ychwanegol at y chwe blynedd y mae disgwyl iddo eu treulio dan glo am achos arall o lwgrwobrwyo.
Mae ei gyfreithwyr eisoes wedi nodi y byddan nhw’n apelio’n erbyn y ddedfryd.
Fe fu’n rhaid i Ehud Olmert ymddiswyddo ar ddechrau 2009 oherwydd cyhuddiadau o lygredd. Ei ymadawiad o lwyfan gwleidyddol Israel agorodd y drws i Benjamin Netanyahu.