Ffoaduriaid Rohingya
Mae beddau torfol wedi cael eu darganfod mewn dros ddwsin o wersylloedd sy’n cael eu defnyddio gan rai sy’n cludo ffoaduriaid yn anghyfreithlon o Falaysia i Wlad Thai.

Mae lle i gredu bod Moslemiaid Rohingya oedd yn ceisio ffoi o wlad Myanmar wedi cael eu cadw yn y gwersylloedd.

Dydy hi ddim yn hysbys eto faint o gyrff gafodd eu darganfod yn y gwersylloedd.

Cafodd beddau torfol tebyg eu darganfod yng Ngwlad Thai yn gynharach y mis hwn.