Mae pobl Iwerddon wedi pleidleisio o fwyafrif mawr dros ganiatáu i gyplau o’r un rhyw briodi.

Ar ôl i’r cyfrif ddod i ben heno, roedd dros 1.2 miliwn o bobl wedi pleidleisio o blaid yn y refferendwm ddoe, o gymharu â 734,000 yn erbyn.

Yn fuan ar ôl cychwyn cyfrif y pleidleisiau am 9 y bore yma, roedd adroddiadau ei bod eisoes yn amlwg y byddai pleidlais o blaid.

Gofynnwyd i bleidleiswyr Iwerddon yn y refferendwm a oedden nhw o blaid cynnwys cymal yng nghyfansoddiad y wlad sy’n datgan: ‘Gellir cynnal priodas yn unol â’r gyfraith rhwng dau berson heb wahaniaethu ar sail eu rhyw.’

Dywedodd arweinydd y blaid Fianna Fail, Michael Martin ei fod wedi bod yn ffyddiog o’r cnlyniad.

“Dw i’n meddwl ei bod yn ddadl a ddaliodd y dychymyg ac roedd gen i deimlad cryf y byddai’r ochr ‘Ie’ yn ennill,” meddai. “Dw i’n meddwl y bydd hyn yn cael ei wireddu heddiw.”

Iwerddon yw’r wlad gyntaf yn y byd i bleidleisio dros ganiatáu priodas rhwng dau o’r un rhyw mewn refferendwm.