Adrian Morgan yn siarad mewn rali i achub Pantycelyn llynedd (llun: Jacob Ellis)
Mae cyn-warden yn Neuadd Pantycelyn wedi dweud y byddai’n barod i ymprydio os yw pob ymdrech i ddod o hyd i ateb boddhaol ar gyfer y myfyrwyr yn methu.

Yn ôl Adrian Morgan, mae Prifysgol Aberystwyth wedi torri ei haddewid ac mae’n mynnu bod rhaid cael trefniant sy’n caniatáu i fywyd Cymraeg ffynnu yno.

Mae’n dweud bod y newid meddwl yn “warthus” ac y gallai gwneud y cyhoeddiad yn ystod cyfnod arholiadau arwain at ganlyniadau gwaeth na’r disgwyl i rai myfyrwyr.

“Rhaid cael amserlen bendant a sicrwydd y bydd y neuadd yn ail-agor yn y dyfodol fel neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg, neu bydd angen dechrau cymryd camau,” meddai Adrian Morgan.

Bwriadu cau

Neithiwr fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn bwriadu cau’r neuadd breswyl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ac y byddan nhw’n canfod llety gwahanol i’r myfyrwyr oedd wedi gobeithio byw yno.

Ond maen nhw wedi dweud y gallai’r neuadd ailagor ym mis Medi 2015 yn gartref i swyddfeydd.

Mae’r penderfyniad wedi cythruddo myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), a gynhaliodd brotest dydd Gwener yn ystod y cyfarfod i geisio cadw’r neuadd i siaradwyr Cymraeg ar agor.

Nawr mae Dr Adrian Morgan, cyn warden ar y neuadd, wedi dweud y byddai’n barod i ymprydio dros achos y myfyrwyr fel “cam olaf” os nad yw buddiannau’r gymuned Gymraeg yn cael eu gwarchod.

‘Tacteg gyfrwys’

Y llynedd fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y byddai Neuadd Pantycelyn yn aros ar agor, ar ôl ymgyrch hir gan y myfyrwyr.

Mae penderfyniad yr wythnos hon wedi syfrdanu’r myfyrwyr, felly, sydd yng nghanol cyfnod arholiadau ar hyn o bryd.

Ac, yn ôl Adrian Morgan, a gefnogodd ymgyrch y myfyrwyr llynedd, mae’r brifysgol wedi torri eu haddewid am ddyfodol y neuadd breswyl.

Roedd Adrian Morgan yn un o’r siaradwyr mewn rali llynedd i geisio achub Pantycelyn:

Ffynnu

“Beth sy’n bwysig nodi yw’r ffordd y maen nhw wedi gwneud i’r peth ddigwydd,” meddai Adrian Morgan, sydd bellach yn Ficer gydag Eglwys Cymru.

“Does gen i ddim teyrngarwch tuag at yr adeilad presennol, rhaid i mi bwysleisio, ond beth sy’n bwysig yn fy marn i yw bod y ddarpariaeth i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aber yn addas i alluogi i’r gymdeithas ffynnu.

“Roeddwn i’n teimlo bod datblygiad Fferm Penglais yn un hynod o gyffrous [ond hefyd yn] teimlo’n wirioneddol bryderus am nad oedd e ddim yn addas ar gyfer cymuned fregus leiafrifol fel y Cymry.

“Llynedd fe gafwyd addewidion clir gan yr un pwyllgor i ddweud eu bod nhw’n ymrwymo i ddatblygu Pantycelyn fel canolfan cyfrwng Gymraeg. Mae’n ymddangos mai tacteg gyfrwys i dawelu’r dyfroedd oedd hynna.

“Ychydig ddyddiau cyn dechrau’r arholiadau maen nhw wedi creu ansicrwydd a drwgdeimlad mewn cyfnod lle does gan y myfyrwyr ddim amser i ymateb. Mae’n dacteg gyfrwys, gwbl warthus yn fy marn i.”

Y Cymry “mewn lleiafrif”

Mae’r brifysgol eisoes wedi penodi rhan o ddatblygiad llety newydd Fferm Penglais ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan arwain at ddyfalu mai i’r fan honno y bydd myfyrwyr Pantycelyn yn cael eu symud.

Ond fe fyddai symud i Fferm Penglais yn gwneud y myfyrwyr yn lleiafrif ieithyddol ac yn gwanhau’r gymuned, yn ôl cyn-warden Pantycelyn.

“Fe fydden i’n cefnogi symud petai rhywbeth addas yn dod yn ei le, ond dyw’r datblygiad ar Fferm Penglais ddim yn addas,” meddai Adrian Morgan.

‘Nid neuadd, ond cornel’

“Does dim ardal gymunedol, mae’r Cymry yn mynd i fod mewn lleiafrif. Nid neuadd sy’n cael ei gynnig, ond cornel mewn datblygiad anferth,” meddai Adrian Morgan.

“Byddai’r Cymry’n symud o gymuned lle mae modd cymryd y Gymraeg yn ganiataol, i’r datblygiad newydd lle na fydd mwy nag un ym mhob pump, ar y gorau, yn siarad Cymraeg.

“Maen nhw wedi addo datblygu Pantycelyn ac yna mynd nôl ar eu gair. Mae’n dwyllodrus a dan dîn, ac mae’n amlwg eu bod nhw wedi dewis aros tan nawr i benderfynu datgelu hyn.”

“Gwarthus a chywilyddus”

Mae’r brifysgol eisoes wedi addo y byddan nhw’n canfod “llety addas” i bob myfyriwr oedd wedi gwneud cais i aros ym Mhantycelyn.

Ond yn ôl Dr Adrian Morgan mae’r myfyrwyr wedi cael eu gwthio i gornel gan fod y cyhoeddiad wedi dod mor hwyr yn y tymor.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod beth fydd y dewis amgen yna [petai’n rhaid i’r myfyrwyr symud], sef Fferm Penglais, ond nid dyna lle wnaethon nhw neud cais i aros flwyddyn nesaf,” meddai Dr Adrian Morgan.

“Bydd yn rhaid iddyn nhw nawr dderbyn y llety newydd neu ganfod rhywle yn y dref ar yr unfed awr ar ddeg, ac fe fydd hi bron yn amhosibl dod o hyd i lety priodol yn y dref.

“Mae’n warthus a chywilyddus. Maen nhw’n chwarae â dyfodol pobl ifanc, a allai gael graddau is na’r disgwyl oherwydd y penderfyniad twp yma ar adeg mor bwysig.”

“Trychinebus” i’r Gymraeg

Mynnodd Adrian Morgan bod angen i’r brifysgol amlinellu yn union beth yw eu bwriad ar gyfer neuadd Pantycelyn, ac ar gyfer cartrefu’r myfyrwyr, gan ddweud nad yw hynny wedi digwydd eto.

“Os yw Pantycelyn yn cau, heb iddyn nhw amlinellu cynlluniau i ddyfodol yr adeilad a chynlluniau ar gyfer darparu llety amgen addas i’r myfyrwyr tra bod y neuadd at gau, fe allai’r effeithiau ar y Gymraeg fod yn gwbl drychinebus,” meddai Adrian Morgan.

“Mae’n rhaid i hoelion wyth y genedl frwydro yn erbyn hyn … ac yn erbyn yr ymerodraeth dwyllodrus yna.

“Mae angen galw ar y brifysgol i amlinellu’n glir beth yw’r dyfodol ar gyfer neuadd Pantycelyn – pam cau nawr, am ba hyd, ac a fydd unwaith eto yn ailagor fel llety myfyrwyr? Rhaid galw arnynt hefyd i amlinellu’n glir beth yw’r dewis amgen i’r myfyrwyr yn y cyfamser.”

Barod i ymprydio

Pe na bai sicrwydd ynglŷn â dyfodol y neuadd a’i myfyrwyr, yn ôl Adrian Morgan, fe fyddai’n barod i ymuno â’r ymgyrchwyr a pharhau i brotestio.

Byddai hyd yn oed yn barod i ymprydio, meddai, os yw pob ymgais arall i ddatrys yr anghydfod yn methu – ac fe awgrymodd y byddai eraill yn debygol o ymuno ag ef.

“Os mai ymateb y brifysgol yw bwrw ymlaen â’r cynlluniau heb ateb y cwestiynau hyn, yna bydd rhaid i ni gymryd camau,” meddai Adrian Morgan.

“Dw i’n barod i sefyll ochr yn ochr â’r protestwyr i feddiannu’r neuadd os oes rhaid, a hyd yn oed ymprydio tan fod synnwyr gan y brifysgol.”

‘Mynd i’r eithaf’

Awgrymodd Adrian Morgan, pe na bai’r brifysgol yn cynnig amserlen bendant a sicrwydd y bydd y neuadd yn ail-agor yn y dyfodol fel neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg, y byddai’n barod i gymryd unrhyw gamau.

“Ar hyn o bryd rwy’n barod i ymprydio am gyfnod penodol ochr yn ochr â’r myfyrwyr, ond yn y bôn pe na bai unrhyw synnwyr cyffredin yn dod o ochr y brifysgol, mae gen i ffydd gwbl glir yn Iesu Grist. Dw i’n gwybod bod mwy y tu hwnt i’r bywyd hwn, felly fe fyddwn i’n barod i fynd i’r eithaf pe bai angen er lles yr iaith ac er lles Pantycelyn,” meddai.

“Ond yn gyntaf dw i’n galw ar y brifysgol i amlinellu yn syth beth yw eu safbwynt nhw ar broses ar gyfer dyfodol yr adeilad. Heb gynllun penodol, wedyn rhaid i’r brotest ddechrau eto, gan barhau o’r pwynt y gadawyd pethau y tro diwethaf.

“Hoffwn bwysleisio mai’r cam olaf fyddai ymprydio, ond nid siarad gwag yw hynny. Mae digon o bobl yn Aberystwyth a thu hwnt yn poeni am ddyfodol y Gymraeg i wneud hynny.

“Os ydyn ni’n cyrraedd y pen a chael ein gorfodi mewn i gornel, byddai’n rhaid ymprydio.”

Doedd Prifysgol Aberystwyth ddim am ymateb i sylwadau Dr Adrian Morgan pan gysylltodd golwg360.

Stori: Iolo Cheung