Colofnau Rhufeinig Palmyra yn Syria
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cipio dinas hynafol Palmyra yn Syria ac wedi cyrraedd safle sy’n cynnwys adfeilion gwerthfawr, yn ôl adroddiadau.

Mae Palmyra yn gartref i safle treftadaeth y byd Unesco ac yn enwog am ei golofnau Rhufeinig mawreddog sy’n 2,000 mlwydd oed.

Mae ofnau y bydd IS yn dinistrio’r safle gan fod honiadau wedi bod yn barod am IS yn dymchwel safleoedd hynafol yn Irac oedd yn dyddio i amser cyn y ffydd Islam.

Mae’r grŵp monitro Arsyllfa Syria wedi dweud nad oes adroddiadau hyd yma eu bod nhw wedi dinistrio arteffactau.

Mae adroddiadau hefyd fod IS yn rheoli maes awyr, carchar ac adeilad cudd-wybodaeth yn y ddinas, wedi i Syria dynnu  ei milwyr allan o’r ddinas.

Mae’r rhan fwyaf o drigolion y ddinas hefyd wedi eu symud o’r ddinas.