Traeth Porth Dafarch, ger Caergybi
Mae traethau Cymru wedi ennill 132 o wobrau mewn seremoni ddiweddar a’u gosod ymhlith y goreuon ym Mhrydain.

O Fae Rest ym Mhenybont i Borth Swtan ar Ynys Môn, bydd 41 o draethau yng Nghymru yn deilwng o Wobr Baner Las y flwyddyn hon.

Eleni, mae Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y Gwobrau Baner Las rhyngwladol – sy’n cael ei roi i’r traethau gorau am safon y dŵr, glendid, diogelwch a chyfleusterau.

Fe fydd 41 o draethau ac un marina yng Nghymru’n derbyn yr anrhydedd o’i gymharu â 34 o wobrau yn 2014.

Llwyddodd 30 traeth arall i gael Gwobr Arfordir Glas ac mae 101 o draethau wedi cael Gwobr Glan Môr am ansawdd dŵr a chyfleusterau da.

Safon uchel

Yn Sir Benfro mae’r mwyaf o Wobrau Baner Las (11) a Marina Abertawe yw’r unig farina yng Nghymru a all hawlio’r wobr.

“Mae’r gwobrau’n dangos safon uchel y dŵr ymdrochi sydd yng Nghymru ac yn adlewyrchu amrywiaeth ein harfordir hardd, sy’n cael ei fwynhau gan ein cymunedau a chan y miliynau o ymwelwyr sy’n dod i draethau Cymru bob blwyddyn,” meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant.

Y Gwobrau Baner Las

Sir Benfro: Amroth, Aber Llydan, Coppet Hall, Dale, Lydstep, Niwgwl, Dinbych-y-pysgod (Traeth y Gogledd), Dinbych-y-pysgod (Traeth y De), Dinbych-y-pysgod (Traeth y Castell), Porth Mawr, Saundersfoot

Gwynedd: Aberdaron, Abersoch (De), Abermaw, Traeth y Graig Ddu, Morfa Dinlle, Pwllheli, Cricieth (Traeth y Promenâd)

Ynys Môn: Benllech, Porth Swtan, Llanddona, Porth Dafarch, Llanddwyn, Bae Trearddur

Ceredigion: Aberporth, Borth, Llangrannog, Harbwr Cei Newydd, Tresaith, Aberystwyth (Gogledd)

Abertawe: Bae Bracelet, Canol Caswell, Gorllewin Langland, Gorllewin Porth Einon, Marina Abertawe (dim traeth)

Conwy: Llanfairfechan, Bae Colwyn, Llandudno (Traeth y Gorllewin)

Pen-y-bont: Porthcawl (Rest Bay), Porthcawl (Bae Treco)

Sir Gaerfyrddin: Cefn Sidan

Sir Ddinbych: Prestatyn

Ffynhonnell: Cadwch Gymru’n Daclus