Ken Skates
Mae Llywodraeth Cymru am geisio trechu tlodi yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad trwy ddefnyddio diwylliant, o dan gynllun newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Diwylliant Ken Skates, fe fydd Cymru’n gosod esiampl i weddill Prydain gyda’r cynllun – gan roi cyfle i bobol ifanc ac oedolion na fyddai fel arfer yn ymwneud â’r celfyddydau.

Bydd rhaglen Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant yn canolbwyntio ar chwe ardal gychwynnol sef Abertawe, Wrecsam, Gwynedd, Caerdydd, Casnewydd a Thorfaen.

Bydd cymorth ar gael i dreialu dulliau newydd, sy’n cynnwys ymweliadau ysgol a chyfleoedd gwirfoddoli, a fydd yn rhoi lle canolog i ddiwylliant mewn cymunedau difreintiedig.

Sgiliau

Y bwriad yw helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant er mwyn dysgu a datblygu sgiliau pwysig, meddai’r Llywodraeth.

“Yn gynharach eleni amlinellais fy uchelgais i wneud Cymru’r wlad fwyaf creadigol yn Ewrop, a rhaid i ni sicrhau bod diwylliant ar gael i bawb os ydym am gyflawni hyn,” meddai Ken Stakes.

“Ceir manteision addysgol eang o ymwneud â diwylliant a’r celfyddydau – mae’n gwella gwybodaeth, llythrennedd a sgiliau. Dyma pam rydym yn dilyn llwybr unigryw yng Nghymru gan roi lle canolog i ddiwylliant yn ein gwaith mewn cymunedau difreintiedig.