Emlyn Dole
Mae arweinydd newydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi ei fwrdd gweithredol.

Cafodd Emlyn Dole o Blaid Cymru ei ethol a’i gyhoeddi yn swyddogol fel  arweinydd newydd y cyngor yn dilyn ffurfio clymblaid rhwng Plaid Cymru a’r Grŵp Annibynnol.

Daw wedi ymddiswyddiad Kevin Madge yr wythnos diwethaf.

Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru, y blaid fwyaf yn y sir, gael rheolaeth o Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Y bwrdd

Mae’r Cynghorydd Pam Palmer yn parhau yn Ddirprwy Arweinydd gyda’r Cynghorydd David Jenkins yn cael ei benodi yn ail Ddirprwy Arweinydd.

Yr aelodau eraill yw:

  • Addysg: y Cynghorydd Gareth Jones
  • Yr Amgylchedd: y Cynghorydd Hazel Evans
  • Tai: i’w gadarnhau

Mae gan Blaid Cymru 29 o gynghorwyr sir ac mae gan y Grŵp Annibynnol 21, sy’n golygu bod ganddynt 50 o aelodau rhyngddynt o blith y 74 sydd ar y Cyngor Llawn.

Tryloyw

“Rydym yn edrych ymlaen at wasanaethu pobl Sir Gaerfyrddin mewn modd agored a thryloyw,” meddai Emlyn Dole.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn llunio ein blaen-raglen waith a gaiff ei seilio ar bolisïau cyllidol cyfrifol a fydd yn ceisio sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu diogelu ac yn gwella’n barhaus, ynghyd ag adfywio a chreu swyddi a chyfleoedd cyflogaeth newydd i’r bobl rydym ni i gyd wedi ein hethol i’w cynrychioli.”

Bydd yr aelodau Annibynnol canlynol yn cadw eu portffolios gwreiddiol:

  • Y Dirprwy Arweinydd: Y Cynghorydd Pam Palmer
  • Adfywio a Hamdden: Y Cynghorydd Meryl Gravell
  • Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd: Y Cynghorydd Jim Jones
  • Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio: Y Cynghorydd Mair Stephens
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: Y Cynghorydd Jane Tremlett