Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf yr orsaf.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, roedd cynnydd o 20,000 o wrandawyr, sy’n golygu bod 126,000 yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos.
Daw’r newydd flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r amserlen newydd wedi i nifer y gwrandawyr ostwng i’w lefel isaf erioed rhwng mis Gorffennaf a mis Medi’r llynedd, i 105,000 o bobol.
Er bod golygydd rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys, wedi croesawu’r ffigyrau, mae gostyngiad sylweddol wedi bod ar yr un cyfnod flwyddyn yn ôl pan roedd 143,000 yn gwrando ar Radio Cymru pob wythnos yn ôl ymchwil RAJAR.
‘Calonogol’
Dywedodd Betsan Powys fod y darlun yn un calonogol pan mae rhywun yn hefyd yn ystyried y nifer sy’n lawrlwytho podlediadau Radio Cymru’n gyson ac yn ‘gwrando eto’ ar raglenni Radio Cymru.
Collodd Radio Wales 1,000 o wrandawyr rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni sy’n golygu bod 426,000 yn gwrando ar yr orsaf yn wythnosol.
Dywedodd golygydd rhaglenni Radio Cymru Betsan Powys wrth Golwg360: “Mae’n braf gweld cynnydd ac mae i’w groesawu. Ar ôl blwyddyn o amserlen newydd mae hyn yn awgrymu ein bod ni ar y trywydd iawn ac fe fyddwn ni’n parhau i geisio sicrhau bod llais pawb i’w glywed ar yr orsaf.
“Rhowch y ffigyrau gwrando law yn llaw â’r nifer sy’n lawrlwytho ein podlediadau ni’n gyson ac yn ‘gwrando eto’ ar raglenni Radio Cymru ar y we ac mae’n ddarlun calonogol.”
Fe welodd gorsaf fasnachol Heart yng ngogledd Cymru gynnydd o 24,000 sy’n golygu fod 131,000 yn gwrando bob wythnos.
Arhosodd nifer gwrandawyr Radio Ceredigion yr un fath ar 18,000 yr wythnos tra bod Radio Scarlets ar Radio Sir Benfro ar 37,000 a 43,000 o wrandawyr wythnosol wedi colli 2,000 o wrandawyr yr un.
Ond, collodd gorsafoedd Heart de Cymru, Capital de Cymru a Swansea Sound wrandawyr.