Cwmni awyrofod Airbus yw’r busnes diweddaraf i rybuddio y byddai’n ail-ystyried buddsoddi yn y DU petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (EU) .

Mae gan y cwmni ffatri sy’n cynhyrchu adenydd awyrennau ym Mrychdyn, Sir y Fflint ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr. Mae Airbus yn cyflogi 17,000 o bobl yn y DU.

Dywedodd llywydd y cwmni yn y DU, Paul Kahn, ei fod yn “hanfodol” bod cwmnïau yn lleisio barn am y posibilrwydd o ddod ag aelodaeth Prydain yn yr UE i ben, yn sgil refferendwm.

Mae David Cameron wedi dweud y bydd yn cynnal refferendwm mewn/allan erbyn diwedd 2017 ac mae dadleuon eisoes wedi dechrau.

Roedd llywydd y CBI, Syr Mike Rake wedi annog busnesau ddoe i leisio eu barn ar y mater, tra bod rhai o uwch swyddogion cwmni offer adeiladu JCB wedi awgrymu na fyddai’r DU yn gweld unrhyw effeithiau andwyol o adael yr UE.

Dywedodd Peter Kahn wrth y BBC: “Rwy’n teimlo ei fod yn hanfodol bod cwmni fel Airbus yn lleisio barn ac yn gwneud safiad o ran cadw Prydain yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Petai amodau economaidd ym Mhrydain yn llai ffafriol i fusnesau na rhannau eraill o Ewrop a thu hwnt, yn sgil gadael yr UE, a fyddai Airbus yn ailystyried buddsoddi yn y DU yn y dyfodol? Byddai, yn bendant,” meddai.

Ond ychwanegodd ei fod yn cefnogi addewid y Prif Weinidog i ddiwygio’r undeb.