David Cameron
Fe fydd David Cameron yn lansio deddfwriaeth newydd “radical” heddiw i fynd i’r afael a mewnfudo, gan gynnwys cymryd cyflogau oddi wrth weithwyr anghyfreithlon.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog hefyd gyhoeddi y bydd troseddwyr sy’n wynebu cael eu hanfon o’r DU hefyd yn cael eu tagio.

Daw’r cyhoeddiad wrth i ffigurau swyddogol heddiw ddangos bod nifer y mewnfudwyr i’r DU yn 318,000 yn 2014 – sef cyfanswm y mewnfudwyr ar ol ystyried y rhai sydd wedi gadael y DU.

Mae hyn yn “gynnydd sylweddol” o fwy na 109,000 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Fe wnaeth David Cameron addewid yn 2010 i fynd i’r afael a nifer y mewnfudwyr sy’n dod i Brydain, ond fe fethodd a chyrraedd y ffigurau hynny. O dan y Llywodraeth Glymblaid, fe gododd y ffigwr – sef nifer y bobl sy’n dod i’r wlad  o’i gymharu â nifer y rhai sy’n gadael – o 244,000 yn 2010 i 298,000 y 2014.

Bydd yn rhybuddio bod “mewnfudo direolaeth yn arwain at bwysau direolaeth ar wasanaethau cyhoeddus” yn ogystal â’r farchnad lafur a chyflogau.

“Delio gyda’r rhai na ddylai fod yma… mae hynny’n dechrau drwy wneud Prydain yn lle llai deniadol i ddod i weithio’n anghyfreithlon,” meddai.

Bydd y Bil Mewnfudo yn cael ei gynnwys yn araith y Frenhines wythnos nesaf.