Milwyr Irac
Mae tua 500 o bobl – gan gynnwys pobl gyffredin a milwyr Irac – wedi cael eu lladd dros y dyddiau diwethaf wrth i’r grŵp eithafol IS feddiannu dinas Ramadi.

Credir bod tua 8,000 o bobl wedi ffoi o Ramadi, meddai llefarydd ar ran y llywodraethwr yn nhalaith Anbar, Muhannad Haimour.

Dywedodd bod y ffigwr yn ychwanegol at y rhai a oedd wedi ffoi ym mis Ebrill, pan ddywedodd y Cenhedloedd Unedig bod 114,000 o drigolion wedi gadael Ramadi a’r pentrefi cyfagos.