San Steffan
Fe fydd Aelodau Seneddol yn ymgynnull yn San Steffan heddiw am y tro cyntaf ers yr etholiad cyffredinol, gyda’r Ceidwadwyr yn ffurfio mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf ers 1997.
O’r 650 o ASau a fydd yn cwrdd am y tro cyntaf, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ASau o blaid yr SNP.
Y dasg gyntaf fydd penodi llefarydd Tŷ’r Cyffredin ac mae disgwyl i John Bercow gadw ei swydd.
Fe fydd y dyddiau nesaf hefyd yn cynnwys paratoadau ar gyfer araith y Frenhines wythnos nesaf.
Bydd yr ASau yn cwrdd eto yfory i ddechrau’r broses o dyngu llw. Mae ASau newydd wedi cael hyfforddiant ynglŷn â sut i ymddwyn yn Nhŷ’r Cyffredin.