Huw Prys Jones yn trafod oblygiadau posibl llwyddiant Ukip i Blaid Cymru
Er y byddai cadw tair sedd wedi ymddangos yn ganlyniad digon boddhaol i Blaid Cymru chwe mis neu flwyddyn yn ôl, does dim dwywaith bod yr etholiad wedi bod yn un siomedig iddyn nhw.
All neb wadu bod y Blaid wedi cael mwy o sylw ar lwyfan Prydeinig nag mewn unrhyw etholiad o’r blaen. Ac er bod gwendidau digon amlwg yn ei neges ganolog, mae pob tystiolaeth yn awgrymu i’r arweinydd Leanne Wood greu argraff ffafriol ohoni’i hun.
Mae’r methiant i droi’r poblogrwydd newydd hwn yn bleidleisiau ar ddydd yr etholiad yn sicr o fod yn destun sawl trafodaeth bellach.
Er cystal a wnaed yn y tair sedd a gadwyd, y gwir ydi mai methiant oedd yr ymdrechion i wneud cynnydd sylweddol mewn unrhyw etholaeth arall heblaw’r Rhondda.
Efallai mai’r gnoc fwyaf i hygrededd a balchder cenedlaetholdeb Cymreig oedd y ffaith fod Ukip wedi cael mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru – gan ddod ar y blaen iddyn nhw mewn 30 allan o 40 o etholaethau Cymru, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r cymoedd.
Mwy fyth o gnoc ar yr olwg gyntaf fyddai gweld Ukip yn cipio pentwr o seddau yn y Cynulliad. Ar y llaw arall, mi fyddai hyn bron yn sicr o agor y drws i lywodraeth i Blaid Cymru.
Mae hyn oherwydd na fydd gan Lafur neb i ffurfio clymblaid â nhw, os bydd y Torïaid ac Ukip ar gynnydd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn lled ddiflannu.
Rhagolygon etholiad y Cynulliad
Er y gwahaniaethau amlwg mewn patrymau pleidleisio rhwng etholiadau San Steffan a’r Cynulliad, mae pob lle i gredu y gallwn weld tueddiadau tebyg i’r wythnos diwethaf, gyda Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar drai, Plaid Cymru’n aros yn ei hunfan, a’r Torïaid ac Ukip ar gynnydd.
- Mae Llafur yn sicr yn agored i niwed oherwydd perfformiad y gwasanaeth iechyd, er nad yw mor hawdd rhagweld pa bleidiau fydd yn elwa ar hynny.
- Anodd rhagweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn atgyfodi digon i allu amddiffyn eu seddau, er ei bod yn rhesymol disgwyl i Kirsty Williams naill ai gadw ei sedd etholaeth neu gael sedd rhestr yn y canolbarth.
- Mae’n wir bod y Torïaid wedi gwneud yn bur dda yn 2011, ac o’r herwydd mae am fod yn dasg anodd iddi gael llawer mwy o aelodau. Ar y llaw arall, mae’n debyg o fod mewn sefyllfa gref i elwa ar amhoblogrwydd Llafur. Mae amryw o etholaethau Llafur yn ymddangos ar bapur i fod o fewn eu cyrraedd.
- Temtasiwn llawer o gefnogwyr Plaid Cymru fydd credu na fydd Ukip yn gwneud dim ohoni yn etholiad y Cynulliad. Wrth wylio’r cecru mewnol o fewn Ukip mae’n rhy hawdd dychmygu y bydd yn hen chwythu’i phlwc. Mewn amgylchiadau arferol, gallai hyn fod yn ddigon tebygol. Rhaid cofio, fodd bynnag, nad amgylchiadau arferol mo’r rhain, gyda refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar y gorwel. Mae Ukip yn sicr o ddefnyddio etholiad y Cynulliad fel modd o ymgyrchu dros bleidlais Na. Mae system bleidleisio’r Cynulliad hefyd yn eu ffafrio – ni fyddan nhw angen cymaint o gefnogaeth ag a gawson nhw’r wythnos ddiwethaf i ennill o leiaf bum sedd restr yn hawdd. Ni fyddai’n rhaid iddyn nhw ennill unrhyw etholaeth i gael tipyn mwy na hyn.
- Er nad oes reswm pam na allai Plaid Cymru weld cynnydd yn ei chyfanswm pleidleisiau, mae’n anodd iawn iddi ennill cynnydd sylweddol yn ei nifer o seddau. Mae hynny’n bennaf oherwydd y byddan nhw’n debygol o gael eu taro gan Ukip ar y rhestrau os bydd rhagor o etholaethau’n syrthio i Blaid Cymru.
- Yr hunllef gwaethaf i Blaid Cymru fyddai i’r refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd ddigwydd yr un diwrnod, gan y byddai’n golygu mantais fwy fyth i Ukip a’r Torïaid. Mae dadleuon cryf ar sail democratiaeth yn erbyn cynnal y ddwy bleidlais yr un diwrnod, a diddorol oedd gweld Ysgrifennydd Cymru ymysg y rhai sydd wedi datgan gwrthwynebiad i’r syniad.
Talcen caled
Er y byddai Plaid Cymru bron yn sicr o ddal ei thir o ran nifer ei haelodau cynulliad, mae am fod yn dalcen caled iddi allu ychwanegu’n sylweddol atynt.
Y gogledd: Byddai angen i Blaid Cymru ennill o leiaf ddwy etholaeth ychwanegol yn y gogledd i sicrhau cynnydd net, gan y gallai’r sedd rhestr fod o dan fygythiad. Ni fydd hyn yn dasg hawdd. Pe byddai’r Torïaid yn cipio Dyffryn Clwyd, gallai Llafur fod yn gystadleuol ar y rhestr.
Y Canolbarth a’r Gorllewin: Er y gellir disgwyl i Helen Mary Jones ennill Llanelli, mae Ukip am olygu cystadleuaeth dynnach ar y seddau rhestr. Pe bai’r Democratraid Rhyddfrydol yn colli Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed, mae’n debygol y gallen nhwythau hefyd gipio sedd restr.
Gorllewin y De: Byddai angen cipio Castell Nedd a chodi’r bleidlais gyffredinol i gadw’r sedd restr er mwyn gwneud cynnydd net. Os bydd Llafur yn cadw Gŵyr, byddai’r Torïaid yn gystadleuol ar y rhestr.
Canol y De: Mae’n sicr mai’r wobr fwyaf i Blaid Cymru anelu amdani fyddai i Leanne Wood ennill y Rhondda. Ni welaf pam na all wneud hynny, ond byddai angen cynnydd yn y bleidlais gyffredinol er mwyn cadw’r sedd restr i wneud cynnydd net.
Rhanbarth Dwyrain y De: Mae am fod yn dalcen caled i Blaid Cymru gadw’i dwy sedd restr yn wyneb cystadleuaeth dynnach. Yr unig ffordd o ddal tir yma fyddai ennill mewn o leiaf un etholaeth, ac mae’n debyg mai Caerffili fyddai’r unig obaith.
Her bwysicaf Plaid Cymru
O ystyried popeth at ei gilydd, un casgliad rhesymol y gellir dod iddo ydi y bydd Llafur yn syrthio’n fyr o gael mwyafrif – ac mai Plaid Cymru fydd yr unig blaid y gall Llafur droi ati.
Mae hyn am roi Plaid Cymru mewn sefyllfa gref – yn syml mae’n debyg y bydd ar Lafur fwy o angen Plaid Cymru nag y bydd gan Blaid Cymru angen y Blaid Lafur.
Pwysicach nag union gyfanswm y seddau y bydd yn eu hennill fydd sicrhau ei bod yn cael bargen werth ei tharo gan Lafur.
Y flaenoriaeth i aelodau Plaid Cymru dros y misoedd nesaf ddylai fod meddwl o ddifrif beth fydd y pris y dylid ei fynnu am fynd i lywodraeth unwaith eto.
Y peth gwaethaf y gallai Plaid Cymru ei wneud fyddai gwerthu ei hun yn rhy rad i Lafur fel y gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol i’r Torïaid.