Pobl yn ymgasglu ar strydoedd Kathmandu ddoe
Mae miloedd o bobol wedi treulio’r noson ar y strydoedd wedi i ail ddaeargryn nerthol daro Nepal gan ladd o leiaf 65 o bobol ac anafu miloedd.

Mae’r wlad yn dal i geisio dygymod a’r daeargryn diwethaf llai na thair wythnos yn ôl, lle bu farw o leiaf 8,000 o bobol.

Roedd canolbwynt y daeargryn diweddaraf ddoe, oedd yn mesur 7.3 ar y raddfa, mewn ardal ger ffin Nepal a China – rhwng y brifddinas Kathmandu a Mynydd Everest.

Ardaloedd mynyddig ar droed yr Himalayas sydd wedi’u heffeithio fwyaf.

Roedd y rhan fwyaf o’r meirw yn ardal Dolakha, yn ôl prif swyddog yr ardal Prem Lal Lamichane:

“Mae pawb yn byw mewn ofn yma. Maen nhw wedi treulio’r noson ar y stryd,” meddai, cyn apelio ar lywodraeth y wlad i anfon rhagor o nwyddau a chymorth dyngarol i’r bobol sydd wedi’u hanafu.

Oxfam

Mae gan elusen Oxfam dîm o 100 o bobol mewn saith ardal o Nepal ar hyn o bryd.

Meddai llefarydd o Oxfam Cymru: “Doedd neb wedi rhagweld yr ail ddaeargryn yma. Y ffordd orau o gefnogi yw anfon neges destun i 70000 gyda’r gair SUPPORT, sy’n anfon £5.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr Oxfam yn Nepal, Cecilia Keizer: “Dywedodd ein timau sydd allan yno bod adeiladau wedi dymchwel a thirlithriadau wedi rhwystro ffyrdd.

“Roedden nhw hefyd mewn sioc, ond fe wnaethon nhw ddychwelyd i’w gwaith yn syth.

“Er nad ydym ni’n gwybod beth fydd union effaith yr ail ddaeargryn mawr yma, rydym yn gwybod bod pobol Nepal angen llawer mwy o gefnogaeth i’w helpu”.