Mae’r ffigurau diweithdra diweddaraf sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod nifer y bobl sy’n ddi-waith yn parhau i ostwng gyda’r nifer mwyaf erioed mewn gwaith.

Roedd nifer y di-waith wedi gostwng i 1.83 miliwn yn y DU – ei lefel isaf ers saith mlynedd, er mai dyma’r gostyngiad lleiaf – 35,000 – yn y chwarter hyd at fis Ebrill ers dwy flynedd.

Roedd nifer y bobl sy’n hawlio lwfans chwilio am waith wedi gostwng 12,600 ym mis Ebrill i 763,000.

Nid oedd newid yn nifer y di-waith yng Nghymru sef 99,000 neu  6.7% o’r boblogaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau i sicrhau bod yr amodau economaidd cywir yn helpu i greu a diogelu swyddi ar draws Cymru.

“Mae’r ffigurau heddiw yn parhau i ddangos arwyddion positif. Mae cyflogaeth wedi cynyddu, ac mae nifer y di-waith wedi aros yn sefydlog.”

Yn y DU mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn parhau i gynyddu – cynnydd o 202,000 yn y tri mis hyd at fis Mawrth i 31 miliwn, y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1971.