Myfyrwyr Ymgyrch 'Ie' Caerdydd
Mae myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd wedi galw am gyfarfod brys gydag uwch swyddogion y brifysgol yn dilyn anghydfod ynglyn a phenodi swyddog Cymraeg llawn amser.

Mae’r myfyrwyr yn honni bod Llywydd Undeb y Myfyrwyr wedi dweud y byddai wedi parhau i wrthod sefydlu swyddog Cymraeg llawn amser – hyd yn oed petai’r myfyrwyr wedi pleidleisio ‘Ie’ mewn refferendwm diweddar.

Cafodd yr honiad ei wneud gan Elliot Howells mewn cyfarfod rhwng swyddogion yr Undeb ac arweinwyr yr ymgyrch ‘Ie’ ddydd Iau diwetha’.

Pwrpas y cyfarfod oedd ceisio adeiladu pontydd rhwng y ddwy garfan, wedi i’r ymgyrch ‘Ie’ gyhuddo’r Undeb o ddweud celwydd ac ymyrryd yn annheg gyda’r ymgyrch ‘Na’.

Ond yn hytrach na thrafod y camau nesaf, mae Swyddog Iaith Gymraeg gwirfoddol y brifysgol Steffan Bryn yn dweud fod cynrychiolwyr yr Undeb yn “claddu eu pennau yn y tywod”.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r Undeb am ymateb.

Y refferendwm

Cynhaliwyd refferendwm ar benodi swyddog Cymraeg llawn amser yn y brifysgol rhwng 27 Ebrill a 1 Mai.

91 pleidlais oedd yn gwahaniaethu’r ddwy ochr, gyda 1,138 (48%) yn pleidleisio o blaid a 1,229 (52%) yn erbyn.

Haeriad syfrdanol’

Meddai Steffan Bryn, Swyddog Iaith Gymraeg rhan-amser a gwirfoddol Undeb y Myfyrwyr: “…yr hyn a gafwyd oedd yr haeriad syfrdanol gan y Llywydd y byddai’r Undeb wedi parhau i wrthod sefydlu swyddog llawn dros y Gymraeg a hynny oherwydd natur ‘agos’ debygol y canlyniad.

“Yn hytrach na gwadu’r haeriad hwnnw, dewisodd rhai o uwch reolwyr yr Undeb godi cwestiynau am bwrpas y refferendwm yn y lle cyntaf, a chwestiynu ei ddilysrwydd.”

Ychwanegodd Gethin Davies, Llywydd y Gym Gym Prifysgol Caerdydd: “Yn ystod y refferendwm soniodd ymgyrch Na yr Undeb sawl tro bod ‘ffyrdd gwell’ o gynrychioli’r Gymraeg heb gyflogi swyddog llawn-amser i wneud hynny. Rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed beth yw’r ffyrdd hynny.

“Os yw Undeb Myfyrwyr Caerdydd o ddifrif am gynrychioli myfyrwyr Cymraeg, rydym o’r farn mai’r unig ffordd effeithiol o wneud hynny yw bod y sefydliad yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw trwy gyflogi swyddog llawn-amser, nid gosod baich pellach ar unigolion gwirfoddol.”

Brwydr

Mae swyddogion yr Undeb wedi awgrymu y byddai’n well ganddyn nhw gyflogi aelod o staff yn hytrach na swyddog etholedig o blith y myfyrwyr. Mae’n debyg na fyddai hynny’n digwydd tan 2017, pan fyddai mwyafrif y myfyrwyr presennol wedi gadael y Brifysgol.

“Ni chawson ni’n argyhoeddi gyda bwriad yr Undeb i gyflogi aelod staff ar waelod y sefydliad, yn atebol yn y pen draw i’r Prif Weithredwr ac yn gyfrifol am gyfieithu yn bennaf,” meddai Steffan Bryn.

“Rydym yn parhau’n gadarn ein safbwynt y dylai myfyrwyr Caerdydd ddisgwyl dim llai na swyddog etholedig llawn-amser ar gyfer y Gymraeg yn atebol i ni’r myfyrwyr.

“Dyma strwythur sydd wedi gweithio’n llwyddiannus iawn mewn prifysgolion mawr eraill yng Nghymru ers dechrau’r nawdegau. Byddwn yn parhau i frwydro dros yr hyn mae myfyrwyr Caerdydd yn ei haeddu, ac yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael er mwyn gwireddu hynny.”