Mae dynion arfog wedi lladd 43 o bobl mewn ymosodiad ar bobl Shiaidd yn ninas Karachi, ym Mhacistan, meddai’r heddlu.

Cafodd nifer o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad ar fws yn ne’r ddinas.

Dywed yr heddlu bod y bws ar ei ffordd i addoldy ar gyfer Mwslimiaid Shiaidd pan ddaeth dynion arfog ar y bws a dechrau tanio gynnau atyn nhw.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn. Mae’r Taliban a grwpiau eithafol Mwslimaidd Swnni wedi targedu pobl Shiaidd yn y gorffennol.