Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol yn cael £3m gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiectau iechyd meddwl ym mhob rhan o Gymru.
Daw’r cyhoeddiad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2015 ac meddai Llywodraeth Cymru fod Cymru’n gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw wasanaeth arall yn y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Mark Drakeford y bydd y prosiectau hyn yn darparu gwasanaethau a fydd yn ategu’r rhai hynny sydd eisoes yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r rhai hynny â phroblemau iechyd meddwl. Bydd y prosiectau rydyn ni’n rhoi cymorth ariannol iddyn nhw’n darparu gwasanaethau ychwanegol i unigolion, a fydd yn ategu’r rhai hynny sydd eisoes yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
“Bydd y prosiectau hyn, sy’n gweithredu’n unol â’n hegwyddorion o ran gofal iechyd darbodus, yn ein helpu i gyflawni nifer o’r nodau sydd wedi’u cynnwys yn ein strategaeth ddeng mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
“Bydd y cylch newydd hwn o gyllid, er gwaethaf y pwysau parhaol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, yn dangos ein hymrwymiad i’r sector gwirfoddol, ac yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae’r sector yn ei wneud wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen.”
Sefydliadau
Y sefydliadau a fydd yn elwa’n uniongyrchol ar y cyllid o £3m yw:
Cymdeithas Alzheimer – £247,925
Bipolar UK – £237,600
Gofal mewn Galar Cruse – £80,000
Diverse Cymru – £226,727
Gofal – £186,783
Hafal – £607,000
Sefydliad Iechyd Meddwl – £80,969
MIND Aberystwyth – £163,240
MIND Cymru – £522,552
Y Samariaid – £326,737
Sight Cymru – £77,880
SPICE Innovations – £182,768