Y Tywysog Siarl
Bydd llythyrau cyfrinachol y Tywysog Siarl i weinidogion y Llywodraeth yn  cael eu cyhoeddi heddiw yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn y DU.

Penderfynodd y llys ym mis Mawrth y dylai llythyrau preifat rhwng y Tywysog Siarl a gweinidogion Llywodraeth Prydain gael eu cyhoeddi.

Cafodd apêl gan y Twrne Cyffredinol, Dominic Grieve, ei wrthod ar ôl iddo geisio herio penderfyniad y Llys Apêl ei fod wedi torri’r gyfraith wrth atal y llythyrau rhag cael eu cyhoeddi.

Fe allai cyhoeddi’r llythyr daflu golau newydd ar y berthynas rhwng y Tywysog Siarl a’r Llywodraeth, gan gynnwys sut y mae wedi ceisio dylanwadu ar bolisïau.

Mae’r tywysog a’r Llywodraeth wedi mynegi siom â’r penderfyniad, ond mae eraill, gan gynnwys papur newydd y Guardian, wedi croesawu’r cam fel un agored a thryloyw fydd yn hybu democratiaeth.