Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi beirniadu Llywodraeth y DU am wneud “tro pedol” a chamarwain pobl Cymru.

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn ymateb i adroddiadau bod Mesur Cymru arfaethedig Llywodraeth San Steffan yn annhebygol o gael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf llywodraeth y DU, er gwaethaf addewidion gan Geidwadwyr amlwg y byddai’n digwydd o fewn y can niwrnod cyntaf.

Yn ôl y BBC, hyd yn oed os fyddai Mesur Cymru yn cael ei grybwyll yn Araith y Frenhines ar 27 Mai, ni fydd yn trafod un o’r deddfau newydd.

Roedd y Canghellor George Osborne wedi addo deddf wrth iddo ymweld â Phowys yn ystod yr ymgyrch etholiadol gan ddweud y byddai’n rhoi mwy o bwerau i Gymru yn y 100 diwrnod cynta’ petai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad.

‘Rhaid cryfhau’r setliad datganoli’

Mae Plaid Cymru eisoes wedi beirniadu cynnwys Bil Cymru ar ôl i lawer o’r argymhellion a gytunwyd gan y Comisiwn Silk gael eu hanwybyddu.

Meddai Leanne Wood: “Cyn yr etholiad, fe wnaeth y Blaid Geidwadol addo cyflwyno Bil newydd Cymru o fewn y can niwrnod cyntaf, ond ei weithred gyntaf yw gwneud tro pedol ar yr ymrwymiad hwn.

“Nawr bod gennym Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru, heb fandad gan bobl yng Nghymru, mae’n golygu fod yn rhaid i ni yn awr gryfhau’r setliad datganoli.

“Nid yw Cymru yn genedl ail ddosbarth ac ni ddylid ei thrin felly.”