Nid yw gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol “yn ddiogel” ac yn methu ar bob lefel, yn ôl adroddiad newydd sydd wedi dod i law’r BBC.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n amlygu nifer o wendidau gan gynnwys diffyg arweinyddiaeth glinigol a dim digon o staff.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar AC bod yr adroddiad yn “asesiad brawychus  o’r gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol – mae’n methu cyrraedd y nod  ar bob lefel.

“Mae’n rhaid i gleifion fod yn hyderus bod gwasanaethau’r GIG ar gael pan maen nhw eu hangen, ond mae’r adroddiad yma yn codi pryderon difrifol ynglŷn â diogelwch.”

‘Ymyrraeth’

Ychwanegodd bod problemau wedi bod yn amlwg ers cyfnod hir ond nad oedd penaethiaid y bwrdd iechyd wedi gweithredu: “Fe ddylen nhw ystyried a ydyn nhw’n gymwys i redeg un o’r sefydliadau sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i weinidogion Llafur ymyrryd i fynd i’r afael a phroblemau staffio o fewn y gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol er mwyn atal rhagor o gleifion rhag cael eu rhoi mewn perygl.”

Galw am ryddhau’r adroddiad

Ar y Post Cyntaf y bore ma fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC, alw ar y bwrdd iechyd i ryddhau’r adroddiad a bod yn gwbl agored am ei gynnwys. Mae hi hefyd wedi galw ar y Gweindiog Iechyd Mark Drakeford, i ymyrryd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud eu bod yn croesawu’r adroddiad ac y bydd yr argymhellion “yn ffurfio sylfaen i gynllun gwaith sydd yn cael ei weithredu.”