George Thomas, Is-iarll Tonypandy

Mae ditectifs sy’n ymchwilio i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn erbyn y diweddar Is-iarll Tonypandy wedi derbyn cwyn newydd sy’n dyddio nôl mwy na 50 mlynedd, yn ôl adroddiadau.

Mae Heddlu De Cymru, sy’n arwain yr ymchwiliad yn erbyn cyn Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, George Thomas, wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Trafnidiaeth Prydain (HTP) ynglŷn â honiad o gyffwrdd yn amhriodol a ddigwyddodd ar drên rhwng Paddington, Llundain ac Aberystwyth yn 1959.

Mae’r gwyn wedi dod gan ddyn a oedd yn 22 oed ar y pryd.

Mae HTP wedi gwrthod cadarnhau enw’r person sydd wedi’i gyhuddo ond mae’r BBC yn adrodd bod yr honiad newydd yn ymwneud ag Is-iarll Tonypandy, a fu farw yn 1997.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i honiad arall yn erbyn yr AS Llafur ei fod wedi cam-drin plentyn  9 oed yn rhywiol yng Nghaerdydd yn yr 1970au.