Mae cychod oedd yn cludo mwy na 500 o Foslemiaid o wlad Myanmar wedi dod i’r lan yng ngorllewin Indonesia.

Mae ymdrechion ar y gweill i gynorthwyo’r mudwyr yn nhalaith Aceh.

Roedd tri allan o bedwar cwch a gafodd eu darganfod wedi cael eu gadael gan y mudwyr, ac roedd y llall wedi rhedeg allan o danwydd.

Roedd y rhan fwyaf o’r bobol ar y cychod o’r gymuned Rohingya, ond roedd eraill yn dod o Fangladesh.

Mae 100,000 o bobol o’r gymuned Rohingya wedi ffoi o’r wlad yn y blynyddoedd diwethaf, meddai prosiect Arakan.

Dywedodd awdurdodau Indonesia fod rhai o’r mudwyr wedi cael eu cludo i orsaf yr heddlu ac i stadiwm chwaraeon, lle maen nhw’n derbyn gofal arbenigol.