Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty wedi iddo gael ei daro gan fws yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Wood y brifddinas am 11.25 y bore ma.
Glaniodd yr ambiwlans awyr ger safle’r gwrthdrawiad, ond cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn ambiwlans cyffredin.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad.
Dydy hi ddim yn glir eto a yw’r dyn wedi’i anafu’n ddifrifol.