Y difrod yn Nepal
Mae’r ymateb rhyngwladol i’r apêl am gymorth brys i’r miliynau sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn yn Nepal wedi bod yn rhy araf, meddai swyddog o’r Cenhedloedd Unedig heddiw.

Dywedodd Jamie McGoldrick, prif swyddog y Cenhedloedd Unedig yn Nepal, bod yr asiantaeth wedi derbyn $22 miliwn o ddoleri’r UD hyd yn hyn er eu bod wedi gwneud apêl am $415 miliwn i roi cymorth brys yn ystod y tri mis cyntaf.

Mae’n rhaid cael cynnydd sylweddol, meddai wrth ohebwyr yn y brifddinas, Kathmandu.

Roedd y daeargryn nerthol ar 25 Ebrill wedi lladd 7,800 o bobl ac anafu miloedd o bobl eraill. Mae ffigurau’r llywodraeth yn dangos bod degau ar filoedd o gartrefi wedi cael eu difrodi a bod angen rhoi cymorth brys i 400,000 o deuluoedd.