Cymorth dyngarol yn cyrraedd maes awyr Kathmandu
Yn sgil y daeargryn yn Nepal dros wythnos yn ôl mae ’na bryder am y gall afiechydon difrifol ledaenu oherwydd diffyg lloches i’r bobl sydd wedi colli eu cartrefi a dŵr llygredig.

Yn ôl y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC), sydd yn cynnal apêl i geisio helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio yn sgil y daeargryn, mae nifer o ardaloedd lle mae cyflenwadau dwr glan wedi cael eu llygru wrth i bobl fyw heb loches.

Dywedodd llefarydd bod ’na bryder y gall afiechydon fel colera ledaenu yn y wlad.

Mae DEC yn rhoi cymorth yn y wlad drwy ddarparu dŵr yfed glan, toiledau mewn gwersylloedd a dosbarthu pecynnau glanweithdra.

Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd yn y daeargryn bellach wedi cyrraedd mwy na 7,300.