Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
Mae Popeth Cymraeg wedi anfon llythyr at Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, yn datgan “diffyg ymddiriedaeth lwyr” yn arweinyddiaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Daw’r llythyr yn dilyn sylwadau honedig a wnaed yn ystod cyflwyniad gan arweinyddiaeth y ganolfan yng Nghynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion y Gogledd ym Mhlas Tan y Bwlch dros benwythnos olaf mis Ebrill.

Ym marn Popeth Cymraeg, roedd y sylwadau yn “amhriodol ac yn amhroffesiynol” .

‘Galw am ymchwiliad’

Dywedodd prif weithredwr Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn, wrth Golwg360 nad oedd o’n fodlon gwneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd  gan fod y corff wedi cysylltu ag awdurdodau Prifysgol Bangor i wneud cwyn ffurfiol am y cyflwyniad.

Mae’r llythyr hefyd yn galw am ymchwiliad ffurfiol i “ddiffygion rheolaethol sylfaenol arweinyddiaeth Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a’i hymddygiad” dros yr wyth mlynedd ers ei sefydlu, gan honni nad yw staff a chyfarwyddwyr Popeth Cymraeg yn teimlo fod y cyfnod ers sefydlu’r ganolfan wedi bod yn “un hapus i’r maes yn gyffredinol”.

Mae’r llythyr hefyd yn dweud fod swyddogion o Lywodraeth Cymru’n ymwybodol o’r sefyllfa yn y gogledd.

Meddai Popeth Cymraeg eu bod yn credu bod angen ymchwiliad er mwyn “dysgu gwersi o’r hyn sydd wedi mynd o’i le.”

‘Arweinyddiaeth dan y lach’

Er hynny, mae’r llythyr yn pwysleisio mai arweinyddiaeth y ganolfan sydd dan y lach, ac nad ydyn nhw’n lleisio unrhyw feirniadaeth o weddill staff y ganolfan na staff dysgu Cymraeg I Oedolion ym Mhrifysgol Bangor.

Ychwanegodd y llythyr fod “parch cyffredinol mawr yn y maes i waith Elwyn Hughes a’i dîm brwd o diwtoriaid.”

Mae Popeth Cymraeg yn gorff a grëwyd yn sgil galwad gan ddysgwr Cymraeg lleol ym 1988 i sefydlu canolfan iaith yn Ninbych. Erbyn hyn mae Popeth Cymraeg wedi agor dwy ganolfan arall yn Llanrwst a Bae Colwyn ac yn y broses o agor pedwerydd ym Mhrestatyn.

Meddai’r llythyr a gafodd ei arwyddo gan Ioan Talfryn, prif weithredwr Popeth Cymraeg, a Dyfrig Berry, cadeirydd cyfarwyddwyr y corff: “Ni yw’r unig gorff yng Nghymru sydd dim ond yn dysgu Cymraeg I Oedolion. Mae pob corff arall yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i Oedolion fel rhan yn unig o’i weithgaredd.

“Dyna yw ein hunig agenda, sef dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd a’u cael i gydweithio’n hapus trwy ddysgu Cymraeg.

“Credwn ei bod hi’n gywilydd o beth, felly, ein bod ni wedi gorfod dioddef cymaint o ddiffyg ewyllys da o du Canolfan Cymraeg I Oedolion Gogledd Cymru dros y blynyddoedd.”

‘Llwyddiannus iawn’

Wrth ymateb dywedodd Prifysgol Bangor mewn datganiad: “Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn dros gyfnod o wyth mlynedd.

“Mae’n siomedig dros ben fod dau unigolyn wedi ymateb mor negyddol gan wneud cyhuddiadau difrifol yn erbyn aelodau o staff sydd wedi llwyddo ac arloesi cymaint dros y blynyddoedd.

“Yn yr arolwg diweddaraf gan Estyn rhoddwyd dyfarniad ‘rhagorol’ i’r Ganolfan, ac mae arolygon ymysg dysgwyr yn dangos lefel uchel o foddhad.”