Fe fu’n rhaid i Nepal gau ei hunig faes awyr cenedlaethol i awyrennau mawr wrth i nifer cynyddol o awyrennau gyrraedd y wlad i roi cymorth dyngarol i’w thrigolion yn dilyn y daeargryn.
Mae modd o hyd i awyrennau maint canolig a bach fynd i mewn i’r maes awyr.
Mae trigolion Kathmandu wedi mynegi eu dicter nad oes cymorth ar gael iddyn nhw o hyd, ac mae diffyg llochesi yn golygu bod nifer sylweddol o bobol yn cysgu yn yr awyr agored.
Mae llefarydd ar ran maes awyr Tribhuwan yn dweud bod pryderon am gyflwr y llain lanio oherwydd y nifer o awyrennau sydd wedi bod yn glanio yno.
Dim ond lle i naw awyren mawr sydd yno, a dim ond un llain lanio.
Yn y cyfamser, dywed swyddogion y Cenhedloedd Unedig eu bod nhw’n gofidio y gallai afiechydon ledu trwy’r wlad yn sgil yr argyfwng.
Mae lle i gredu bod y daeargryn wedi effeithio ar 8.1 miliwn o bobol yn Nepal – sy’n fwy na chwarter ei phoblogaeth.
Mae 7,040 o bobol wedi’u lladd hyd yma a dydy’r llywodraeth ddim yn credu y byddan nhw’n dod o hyd i ragor o bobol yn fyw bellach.
Mae mwy na 70 o ôl-gryniadau hefyd wedi taro Nepal.