Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo llanc 15 oed o gynnau tân gwair bwriadol yng Nghasnewydd.

Cafodd y tân ei gynnau ar dir ger Ysgol Uwchradd Llanwern.

Mae’r llanc o Gwmbrân wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron llys ieuenctid Cwmbrân ar Fai 19.

Mae Heddlu Gwent wedi ategu pa mor ddifrifol yw’r drosedd o gynnau tân gwair yn fwriadol, a’r niwed y gallai achosi if yd natur a’r cyhoedd.