Protestwyr yn Baltimore
Mae miloedd o bobol mewn dinasoedd ledled yr Unol Daleithiau wedi bod yn protestio yn dilyn marwolaeth y dyn croenddu Freddie Gray.
Cafodd 60 o bobol eu harestio yn Efrog Newydd ac 16 o bobol yn Baltimore, sef lle y bu farw Freddie Gray, 25, o anaf i’w gefn tra yng ngofal yr heddlu.
Roedd protestiadau eraill yn Boston, Washington DC ac Indianapolis.
Dechreuodd y terfysgoedd yn Baltimore ddydd Llun, oriau yn unig wedi angladd Freddie Gray, ac fe arweiniodd hynny at yr heddlu yn cyhoeddi cyrffyw yn gorchymyn na ddylai unrhyw un fod allan ar y strydoedd ar ôl 10:00 yr hwyr.
Mae dadl genedlaethol wedi’i sbarduno yn America tros rym yr heddlu ers yr haf diwetha’, yn dilyn marwolaeth llanc croenddu yn Ferguson, Missouri.
Bydd Adran Gyfiawnder yr UD yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth Freddie Gray.