Mae syrffiwr mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad gan siarc yn ne Awstralia.
Mae heddlu wedi cadarnhau mewn datganiad fod y dyn 26 oed wedi anafu’i goesau’n “ddifrifol” wedi’r ymosodiad rhyw 25 milltir i’r de o Port Lincoln yn nhalaith De Awstralia.
Fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd o ysbyty yn Port Lincoln i ysbyty ym mhrifddinas y dalaith, Adelaide.
Mae siarcod i’w gweld yn gyson oddi ar arfordir Awstrlia, ond mae ymosodiadau ar bobol yn bethau prin.