Mae cyn-filwr 73 mlwydd oed wedi ymddangos gerbron llys yng Ngogledd Iwerddon, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dyn ag anableddau dysgu yn 1974.

Mae Dennis Hutchings, o Cawsand, Torpoint yng Nghernyw, wedi’i ryddhau ar fechniaeth, yn dilyn ymddangosiad yn Llys Ynadon Omagh heddiw.

Fe gafodd John-Pat Cunningham, 27, ei saethu’n farw gan batrol y fyddin ym mis Mehefin 1974.

Fe gafodd Dennis Hutchings ei arestio yn Lloegr ddydd Mawrth diwetha’, a’i gludo i Ogledd Iwerddon i gael ei holi gan swyddogion sy’n ymchwilio i droseddau’n ymwneud a chyfnod y Trafferthion.